RHWYDWAITH DIWYLLIANT OED GYFEILLGAR
Dwyn ynghyd y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i wneud Cymru yn lle da i dyfu'n hŷn
AMDANOM NI
Mae pobl h ŷn yn gwneud cyfraniad sylweddol I’n cymunedau, ein diwylliant a’n heconomi yng Nghymru. Er gwaethaf y cyfraniad hwn, ni chaiff pawb y cyfle i fyw eu bywyd i’r eithaf, a caiff dyheadau’r henoed yn aml eu hesgeuluso a’u tanbrisio.
Menter genedlaethol newydd yw’r Rhwydwaith Diwylliant Oed Gyfeillgar a grëwyd ar y cyd gan, Amgueddfa Cymru, Heneiddio’n Dda yng Nghymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Gwanwyn - Age Cymru.
Mae'r rhwydwaith yn gyswllt rhwng unigolion a sefydliadau o feysydd diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau ym mhob cwr o Gymru ac yn fodd o rannu sgiliau, gwybodaeth ac arfer gorau. Bydd yn datblygu dulliau blaengar ac ymarferol o ymgysylltu’n well â phobl hŷn a gwella’u safon byw a’u lles. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru yn ogystal â datblygu adnoddau ar-lein i hyrwyddo gwaith partneriaeth ac i rannu syniadau ac arferion gorau.

EIN PARTNERIAID





CYSYLLTWCH Â NI
CONTACT US
Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru'ch diddordeb, cysylltwch â ni trwy lenwi'r ffurflen
For more information, or to register your interest, please contact us by completing the form
Ageing Well in Wales,
Older People's Commissioner for Wales, Cambrian Buildings,
Mount Stuart Square,
Bute Town,
Cardiff CF10 5FL
Amgueddfa Cymru,
National Museum Wales,
Cathays Park,
Cardiff
CF10 3NP