Y RHWYDWAITH DIWYLLIANT
OED-GYFEILLGAR: TEMPLED ARFERION DA
Rhan 1: Trosolwyg
Rhowch deitl byr sy’n disgrifio eich prosiect oed-gyfeillgar (hyd at. 60 nod)
Rhowch un neu fwy o luniau sy’n esbonio eich prosiect orau, neu gynnwys dolenni i rywle lle mae modd lawrlwytho lluniau
Uwchlwytho lluniau
Llwythwch y ffeil a gefnogir (Uchafswm 15MB)
Nodwch fanylion am le mae’r prosiect yn cael ei gynnal. Rhowch gôd post os oes un ar gael.
Disgrifiwch y prosiect oed-gyfeillgar mewn 200 i 300 gair. Dylai’r disgrifiad ateb y cwestiynau canlynol:
-
Beth wnaethoch chi?
-
Pam gwnaethoch hynny?
-
Sut gwnaethoch hynny?
-
Pwy gymerodd rhan (pobl hŷn, rhanddeiliaid)?
-
Beth gwnaethoch ei gyflawni?
-
Pwy gafodd fudd, a sut?
-
Beth wnaethoch chi ei ddysgu yn ystod y prosiect?
Os hoffech i ni rannu gwybodaeth am eich prosiect ag eraill, rhowch wybod inni am unrhyw wybodaeth arall am eich gwaith a allai gael ei rhannu. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau, taflenni neu bosteri, erthygl o bapur newydd, neu ddolenni i wefannau neu fideos.
Atodwch ddolenni i rywle lle mae modd lawrlwytho / cael mynediad at ragor o wybodaeth, neu eu cynnwys fel atodiadau wrth gyflwyno eich arfer da.
Uwchlwytho lluniau
Llwythwch y ffeil a gefnogir (Uchafswm 15MB)
RHAN 2: RHAGOR O WYBODAETH
Pryd ddechreuodd y prosiect?
Dywedwch wrthym ni ym mha flwyddyn ddechreuodd y prosiect
Ydy’r prosiect wedi’i gwblhau neu a yw’n dal i redeg?
Pa brif grwpiau o bobl hŷn y mae’r prosiect yn eu targedu?
Ydy eich arfer oed-gyfeillgar yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill?
Canlyniadau a geisir
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn categoreiddio arferion oed-gyfeillgar fel helpu pobl i wneud un o’r pum peth isod. Ticiwch un canlyniad ar gyfer pobl hŷn yr ydych chi’n meddwl sydd fwyaf addas ar gyfer eich arfer chi:
RHAN 3: GYDA PHWY WNAETHOCH WEITHIO?
Arweinydd y prosiect
Pwy arall oedd yn rhan ohono?
Sut gwnaethoch chi gydweithio?
Gall creu partneriaethau llwyddiannus fod yn heriol ac mae llawer o ffyrdd gwahanol o’u cyflawni. Rhannwch fanylion am sut gwnaethoch gydweithio i wneud eich arfer oed-gyfeillgar yn bosibl.
Sut oedd pobl hŷn yn rhan o’r prosiect?
Rhannwch ychydig frawddegau yn disgrifio yn fanylach rôl pobl hŷn yn eich prosiect.
Rhagor o fanylion am sut oedd pobl hŷn yn rhan o’r prosiect
RHAN 4: BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?
Ydych chi wedi derbyn unrhyw adborth am eich arfer
oed-gyfeillgar?
Os ydych chi wedi derbyn unrhyw adborth, yn arbennig gan y grwpiau o bobl hŷn a oedd yn gynulleidfa darged i’r prosiect neu gan randdeiliaid allweddol, rhannwch yr adborth a gawsoch yma. Sylwch, gall adborth negyddol fod yr un mor ddefnyddiol ag adborth cadarnhaol wrth helpu eraill i ddysgu o’ch profiadau chi ac wrth iddynt gynllunio eu prosiectau oed-gyfeillgar eu hunain.
Ydy effaith eich prosiect wedi cael ei werthuso?
Os ydy eich prosiect wedi cael ei werthuso...
Rhowch ragor o wybodaeth am ganfyddiadau unrhyw werthusiad.
Os oes gennych unrhyw adroddiadau gwerthuso, rhowch ddolen i rywle lle mae modd eu lawrlwytho, neu eu cynnwys fel atodiadau ychwanegol wrth gyflwyno eich arfer da.
Ydych chi’n bwriadu ymestyn / adeiladu ar eich gwaith?
Os ydych, rhowch ragor o wybodaeth am beth rydych yn bwriadu ei wneud nesaf. Gallai hyn gynnwys cynnal y prosiect mewn mwy o ardaloedd, ei gyflwyno i grwpiau gwahanol o bobl, neu ychwanegu nodweddion, gwasanaethau neu weithgareddau newydd.
Beth ydych chi wedi’i ddysgu?
Myfyriwch ar eich profiadau a’u rhannu er mwyn helpu pobl eraill i gynllunio prosiectau i wneud eu cymunedau yn fwy oed-gyfeillgar.
-
Beth fyddech chi wedi hoffi ei wybod cyn dechrau?
-
Beth weithiodd yn dda?
-
Oedd manteision annisgwyl i’r gwaith?
-
Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Beth oedd rhai o’r heriau?
Sut gwnaethoch chi wynebu’r heriau hynny?
Gall fod yn ddefnyddiol iawn i gymunedau eraill sy’n bwriadu dod yn oed-gyfeillgar wybod am rai o’r heriau y gallant eu hwynebu, a’r ffyrdd y mae pobl eraill wedi delio â’r heriau. Rhannwch unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n meddwl allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill.