
AMDANOM NI
Gweithio Tuag at Well Yfory
Mae pobl h ŷn yn gwneud cyfraniad sylweddol I’n cymunedau,
ein diwylliant a’n heconomi yng Nghymru. Er gwaethaf y cyfraniad
hwn, ni chaiff pawb y cyfle i fyw eu bywyd i’r eithaf, a caiff
dyheadau’r henoed yn aml eu hesgeuluso a’u tanbrisio.
Menter genedlaethol newydd yw’r Rhwydwaith Diwylliant Oed Gyfeillgar a
grëwyd ar y cyd gan, Amgueddfa Cymru, Heneiddio’n Dda yng
Nghymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Gwanwyn - Age Cymru.
Bydd y rhwydwaith yn gyswllt rhwng unigolion a sefydliadau o
feysydd diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau ym mhob cwr o
Gymru ac yn fodd o rannu sgiliau, gwybodaeth ac arfer gorau. Bydd
yn datblygu dulliau blaengar ac ymarferol o ymgysylltu’n well â
phobl hŷn a gwella’u safon byw a’u lles. Byddwn yn cynnal cyfres o
ddigwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru yn ystod 2017 yn ogystal
â datblygu adnoddau ar-lein i hyrwyddo gwaith partneriaeth ac i
rannu syniadau ac arferion gorau.